Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Diolchiadau

Noddir yr arddangosfa hon gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn rhan o brosiect ymchwil tair blynedd 'Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010' a gynhelir ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor ac Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Gwnaed yr arddangosfa yn bosib trwy gefnogaeth hael Amgueddfa Ceredigion, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Gwynedd. Ymhellach, hoffai trefnwyr yr arddangosfa ddiolch i'r sefydliadau sydd wedi galluogi'r cyhoedd i weld yr eitemau sydd yma: Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog; Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth; BBC Cymru; Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen; Amgueddfa Genedlaethol y Rheilffyrdd, Efrog; Madame de la Villemarqué, Quimperlé a Fañch Postic o'r Centre de Recherche Bretonne et Celtique, Prifysgol Brest.

Hefyd hoffem ddiolch i'r benthycwyr preifat Gwyn Griffiths, David Lindner ac Elmar Schenkel yn ogystal â Peter Lord, Renate Koppel, Karel Lek Wolf Sutschitzky ac ystad Josef Herman am eu cefnogaeth garedig a'u caniatâd i arddangos cyfweliadau a gweithiau celf ganddynt.

Site footer