Tirlun A Diwydiant
Mae mynyddoedd aruchel, adfeilion hynafol, pentrefi pert fel pictiwr a glaw, llawer iawn o law, oll yn elfennau sydd i'w canfod mewn aml i ddisgrifiad o Gymru gan deithwyr o gyfandir Ewrop. Ond mae Cymru wedi denu ymwelwyr tramor am resymau amgenach na dim ond y dymuniad i edrych ar goed cnotiog a bythynnod bychain gwyngalchog ar wasgar ar hyd y fro.
Canwyd clodydd mynyddoedd Eryri a Bannau Brycheiniog ers y cyfnod Rhamantaidd am eu harddwch gerwin – ond fe'u melltithiwyd hefyd am fod mor ddiarffordd. Wrth geisio unigeddau a golygfeydd syfrdanol mae teithwyr wedi dringo'r mynyddoedd hyn ar droed, ar gefn ceffyl ac mewn coetsys. Maent wedi crwydro'r lonydd cul mewn ymgais i osgoi gwareiddiad, dim ond i ddarganfod bod yr ystafell olaf yn y llety wedi ei bwcio ychydig oriau ynghynt gan dwristiaid eraill o'r Cyfandir, fel a ddigwyddodd yn achos Carl Carus, meddyg o'r Almaen, ar ymweliad ag Aberystwyth ym 1844, er mawr siom iddo. Doedd tywydd gwlyb, na chwmni teithwyr eraill yn poeni dim ar lawer o'r artistiaid oedd ar drywydd ysbrydoliaeth, ond fe drefnodd Hubert von Herkomer, artist o Bafaria, i gaban symudol arbennig gael ei osod ar lannau Llyn Ogwen er mwyn iddo gael cysgodi rhag y glaw. Ac fe ddechreuodd Onorato Carlandi o'r Eidal guddio yn y llwyni er mwyn gallu arsylwi ar arferion lleol heb darfu ar y bobl.
Gydag ymchwydd y berw diwydiannol, daeth ymwelwyr o'r Cyfandir i chwilio am feysydd glo a gweithiau haearn a dur de Cymru, a chwareli llechi'r gogledd. Pan nad oedd gwledydd cyfandir Ewrop ond megis dechrau datblygu eu diwydiannau eu hunain yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Cymru eisoes ar flaen y gad yn arloesi gyda dulliau cludiant newydd fel rheilffyrdd a llongau stêm a phensaernïaeth ddiwydiannol. Safai llawer o'r teithwyr yn syfrdan o flaen ffrwst y bywyd trefol, y dyfeisiadau swnllyd, awyrgylch uffernol y ffatrïoedd a'r pontydd newydd gwefreiddiol; roedd pont grog Menai, dyfrbont Pontcysyllte a gwaith dur Dowlais yn goleuo'r ffordd tua dyfodol Ewrop. Roedd sawl ymweliad â Chymru yn ystod y blynyddoedd o dwf diwydiannol yn cynnwys rhywfaint o ysbïo diwydiannol.
Ac wedyn dyna'r glaw. Glaw mân sy'n rhoi terfyn ar bicniciau ar lannau Llyn Tegid. Cawodydd sy'n dilyn cerddwyr dros y bryniau ac ar hyd y cymoedd. Stormydd sy'n rhwystro ymadawiad llongau o Gaergybi ac Abergwaun. Ond calon gwlybaniaeth Cymru yw copa'r Wyddfa, yn ôl llawer o'r teithlyfrau. Mae nifer o deithwyr wedi mentro'i llethrau yn y gobaith o gael cip ar fynyddoedd Wicklow yn Iwerddon. Ond yn hytrach, syllu mewn anghrediniaeth ar fynyddoedd o gymylau glaw, ar gymoedd o niwl ac ar fynyddwyr gwlyb eraill fu eu hanes. Hyd yn oed os oedd yr olygfa wedi'u siomi mae paned o goffi cynnes, a thafell o fara a chaws wedi codi calon sawl mynyddwr lluddedig a lleidiog, o leiaf ers yr 1840au pan agorodd y cabanau pren cyntaf eu drysau i gwsmeriaid ar y copa.
A hwythau'n swatio rhwng mynyddoedd a bryniau pery adfeilion abatai Tyndeyrn ac Ystrad Fflur i fod yn gyrchfannau i ymwelwyr o'r Cyfandir lawn cymaint â hen ran segur chwarel y Penrhyn neu lofa Big Pit ym Mlaenafon – a'r dŵr glaw yn ddisglair arnynt i gyd wrth i'r haul dorri trwy'r cymylau wedi'r gawod ddiweddaraf.