Alltudiaeth a Mewnfudo
Chwyldroadau, radicaliaeth wleidyddol, rhyfel neu'r gobaith am fywyd gwell. Mae rhesymau pobl dros ymadael â'u cartrefi a'u gwledydd ar gyfandir Ewrop yn niferus, a'u straeon yn llawn troeon annisgwyl. Agorodd y Cymry eu drysau i filoedd o ffoaduriaid nid yn unig yn ystod y Chwyldro Ffrengig, y chwyldroadau Ewropeaidd ym 1848 a'r ddau Ryfel Byd, ond maent yn dal i groesawu ymwelwyr o gefndiroedd amrywiol hyd heddiw.
Yn ystod y Chwyldro Ffrengig teithiodd nifer o uchelwyr i Gymru er mwyn dianc rhag undonedd eu halltudiaeth yn Llundain. Ym 1806 daeth un o'r rhain Antoine Philippe d'Orléans – cefnder i'r brenin a ddienyddiwyd yn Ffrainc – i weld tirlun Cymru ac i wella ei sgiliau artistig. Ond roedd sefyllfa llawer o'r ffoaduriaid eraill i Brydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hollol i'r gwrthwyneb, a hwythau wedi'u halltudio oherwydd bod eu hymgais i sefydlu llywodraeth etholedig wedi methu. Yn ystod chwyldro Mawrth 1848, roedd Johann Heinrich Bettziech, newyddiadurwr o Sacsoni, wedi dosbarthu nifer o daflenni gwrthfrenhinol ac felly'n wynebu llid brenin Prwsia, Friedrich Wilhelm IV. Yn ystod ei alltudiaeth ym Mhrydain, ymwelodd Bettziech â nifer o lofeydd a gweithfeydd haearn yn ne Cymru gan ysgrifennu disgrifiadau cydymdeimladol ar gyfer ei ddarllenwyr Almaenaidd o waith peryglus a chyflogau pitw'r gweithwyr Cymreig.
Daeth y ddau Ryfel Byd â marwolaeth a dinistr i Ewrop gyfan. Profodd y Cymry nid yn unig y dogni nwyddau, y cyrchoedd bomio a cholli milwyr ar flaen y gad, ond gwelsant hefyd gynnydd yn nifer y bobl o gyfandir Ewrop a oedd yng Nghymru. Dihangodd llawer o bobl i Gymru fel ffoaduriaid, anfonwyd rhai i Gymru mewn ymgais i'w hachub rhag erledigaeth, fel y plant o Wlad y Basg adeg Rhyfel Cartref Sbaen ym 1937, a chadwyd eraill yma yn garcharorion rhyfel. Dychwelodd mwyafrif y ffoaduriaid a'r carcharorion adref ar ddiwedd y rhyfeloedd hyn, ond roedd y rhan fwyaf o'r plant Iddewig o'r Almaen, y daethpwyd â hwy i Gymru yn rhan o Kindertransport 1939, fel Ellen Davies a anfonwyd i Abertawe, wedi colli unrhyw deulu neu gartref y gallasent fod wedi dychwelyd atynt.
Fodd bynnag, nid cynnwrf gwleidyddol neu ryfeloedd oedd yr unig bethau a ddaeth â phobl o gyfandir Ewrop i Gymru. Mae'r cymunedau mawr o Sbaenwyr a phobl o Ddwyrain Ewrop sydd yn ne Cymru yn tystio i donnau mawr o fewnfudwyr a gyrhaeddodd o'r Cyfandir yn ystod yr oes ddiwydiannol. Am ryw ganrif tan ail hanner yr ugeinfed ganrif roedd y Sioni Winwns o Lydaw yn olygfa gyfarwydd ar strydoedd Cymru. A hyd heddiw gwelir ôl mewnfudwyr o'r Eidal ar aml i dref glan môr, lle cedwir y siop sglodion a'r caffi hufen iâ gan deuluoedd Eidalaidd sy'n gwerthu'u nwyddau i dwristiaid a theithwyr eraill o Ewrop.