Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Rhagarweiniad

Pam mae pobl yn teithio i wledydd tramor? Pa lefydd y maent yn ymweld â hwy? Sut mae teithwyr yn cyrraedd pen eu taith? Beth maent yn ei ddweud wrth bobl gartref am eu hanturiaethau ar y ffordd? A beth sy'n dod â phobl i Gymru? Mae'r arddangosfa hon yn edrych ar Gymru trwy lygaid fforwyr, twristiaid, ffoaduriaid, a hyd yn oed ysbïwyr o gyfandir Ewrop.

Ers canrifoedd mae pobl o gyfandir Ewrop wedi dod i Gymru am amryw o resymau. Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd deuai rhai i chwilio am baradwys wledig, tra teithiai eraill yn oes Victoria fel ysbïwyr diwydiannol; ac mewn cyfnodau o ryfel dihangodd llawer o ffoaduriaid i Gymru i geisio lloches rhag erledigaeth. Mae pobl o gyfandir Ewrop nid yn unig wedi gadael eu hôl ymysg pobl Cymru trwy ymgartrefu yma, ond maent hefyd wedi ysgrifennu'n eang am eu profiadau mewn dyddiaduron, llythyron, llyfrau a chylchgronau, ac yn fwy diweddar, mewn blogiau ar y we. Ac o'r cychwyn cyntaf, mae artistiaid proffesiynol wedi cael eu hysbrydoli gan y tirlun Cymreig yn ogystal â'r trefi diwydiannol, ac wedi cynhyrchu myrdd o ddelweddau ar ffurf brasluniau, paentiadau a ffotograffau.

Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys amrywiaeth o weithiau celf a gynhyrchwyd gan bobl o sawl gwlad – gan gynnwys y Swistir, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Awstria a Gwlad Pwyl – o'r cyfnod Rhamantaidd hyd heddiw. Yn y lluniau gwelir Cymru yn ei holl amrywiaeth: tirluniau paradwysaidd, canolfannau diwydiannol a phortreadau o'r Cymry. Yr hyn sy'n gwneud y celf a ddangosir yma yn unigryw yw'r pynciau a fynnodd sylw'r teithiwr estron. Wrth gasglu golygfeydd ar gyfer teithlyfrau darluniadol fe gofnododd y Ffrancwr o Alsace Philippe-Jacques de Loutherbourg enghraifft o fenter ddiwydiannol gynnar yng Nghymru pan frasluniodd Ffwrnais Dyfi yng ngogledd Ceredigion yn yr 1780au, ac yn yr un cyfnod fe gofnododd yr artist Ffrengig Amélie de Suffren olygfa o weithwyr mewn odyn frics yng Nghlydach, y Fenni. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, canmolwyd Eryri fel testun perffaith ar gyfer heriau celfyddyd fodern gan yr artist tirluniau o'r Eidal, Onorato Carlandi. Ac yn yr ugeinfed ganrif, ymgartrefodd ffoaduriaid o gyfandir Ewrop fel Heinz Koppel, Josef Herman a Karel Lek yng Nghymru, ac anfarwoli eu profiadau o lefydd o Ferthyr Tudful i Ynys Môn ar ffurf cynfas.

Mae'r gwrthrychau a arddangosir yma yn tystio i sut mae teithio wedi newid dros y 250 mlynedd diwethaf. Cyfnewidiwyd cistiau trymion a glymwyd i do'r goets bost am siwtcesys ac ysgrepanau ysgafn. A disodlwyd mapiau mawr, atlasau ffordd a chwmpawdau gan declynau GPS cledr llaw. Daeth yr hunlun yn lle'r cerdyn post. Yr hyn a erys, fodd bynnag, yw dymuniad y teithwyr i adrodd yn ôl i'w ceraint, ffrindiau a'u cyfoedion gartref am eu hanturiaethau yng Nghymru, ac felly maent yn parhau i ysgrifennu llyfrau, tynnu lluniau a chasglu tocynnau mynediad i gestyll a threnau bach stêm.

Site footer