Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Teithwyr A Phobl Leol

Antoine-Philippe d'Orléans, Felix Mendelssohn Bartholdy, y Frenhines Elisabeth o Rwmania, Valerius de Saedeleer, Béla Bartók. Ar hyd y blynyddoedd, mae nifer o deithwyr enwog o gyfandir Ewrop wedi ymweld â Chymru. Daeth rhai i anadlu awyr iach yr arfordir, ac eraill i gyfarfod â llenorion Cymru neu hen ferched o Iwerddon. Daeth eraill eto er mwyn dianc rhag rhyfel yn eu gwledydd brodorol, tra nad oedd rhai ond yn galw heibio ar eu ffordd i Ddulyn.

Er mai ymweld â'r wlad ei hun oedd nod mwyafrif y teithwyr o gyfandir Ewrop, ysbrydolwyd nifer ohonynt i ymgymryd â'r daith i Gymru er mwyn cwrdd â phobl nodedig. Roedd 'Ladis Llangollen', Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, ymhlith y selebritis rhyngwladol cyntaf a gafwyd yn Nghymru. Roedd y ddwy uchelwraig o Iwerddon yn enwog am iddynt ffoi i ogledd Cymru er mwyn osgoi priodi yn erbyn eu hewyllys, ac ar hyd y blynyddoedd, fe dderbynion nhw nifer o ymwelwyr o bob ran o Brydain yn ogystal â Ffrainc. Ymysg yr ymwelwyr hyn roedd y nofelydd Madame de Genlis, a oedd yn alltud ym Mhrydain oherwydd y Chwyldro Ffrengig. Ond, yn hytrach na chysgu'n dawel ar ei hymweliad â Phlas Newydd ym 1792, cadwyd Genlis ar ddihun yn y nos gan delyn eolaidd (sef math o glychau gwynt) a grogai yn union o dan ei ffenest.

Trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ansawdd y ffyrdd a rhai o'r gwestai yn achos syndod i lawer o ymwelwyr o gyfandir Ewrop. Ar y llaw arall, mae eu teithlyfrau yn aml yn disgrifio cyfeillgarwch annisgwyl eu lletywyr o Gymry, a'r bobl y daethant ar eu traws ar y ffordd. Teithiodd yr ieithydd Awstriaidd Hugo Schuchardt i ogledd Cymru ym 1875 er mwyn dysgu Cymraeg. Ysgwydai pobl ei law yn frwd bob tro y câi ei gyflwyno fel "yr Almaenwr sy'n deall Cymraeg", ac er mwyn ei helpu i wella ei Gymraeg, byddai ei letywraig yng Nghaernarfon bob amser yn mynd ato yn ddifrifddwys. Ac yn siarad. Yn araf. Iawn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyrhaeddodd lletygarwch Cymreig benllanw pan anogwyd ffoaduriaid Belgaidd i ymgartrefu dros dro yng Nghymru. Yn benodol fe wahoddodd y chwiorydd Davies o Gregynog gerddorion, arlunwyr a cherflunwyr i Gymru, nid yn unig o garedigrwydd ond hefyd yn y gobaith o roi hwb i'r celfyddydau yng Nghymru. Er yr ymddengys i'r ffoaduriaid o Wlad Belg fynd bron yn angof erbyn y canmlwyddiant yn 2014, ni ddychwelasant i'w gwlad heb adael olion ar hyd a lled Cymru. Mae tirluniau Valerius de Saedeleer, cerfiadau pren Joseph Rubens yn eglwys Llanwenog, Ceredigion, a Rhodfa'r Belgiaid rhwng Porthaethwy ac Ynys Tysilio, yn rhoi syniad o'r llu enghreifftiau o offrymau diolch a gafwyd gan Wlad Belg i Gymru.

Site footer