Merthyr Blues
Heinz Koppel (1919–1980)
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ganed Heinz Koppel i deulu Iddewig ym Merlin. Ym 1938 dihangodd o Brâg gan ymgartrefu yn ne Cymru. Yn dilyn astudiaethau celf gyda Martin Bloch yn Llundain dechreuodd ddysgu celf yn Nowlais yn y 1940au. Ysbrydolwyd llawer o'i baentiadau o'r cyfnod hwn gan y ardal leol.